Oes gennych chi’r sgiliau i fod yn ofalwr maeth? // Do you have the skills to become a foster carer?

Published by carwyn for Gwynedd Council in Local Government
Monday 12th May 2008 - 2:40pm

Email This Item

 

ARTICLE TOOLS

RSS CYNGOR GWYNEDD COUNCIL

CYNGOR GWYNEDD COUNCIL Logo

www.gwynedd.gov.uk

TODAY IN LOCAL GOVERNMENT

Oes gennych chi’r sgiliau i fod yn ofalwr maeth?

[Please scroll down for English version]

A hithau’n Bythefnos Gofal Maeth Cenedlaethol (12 – 25 Mai) mae Tîm Maethu Cyngor Gwynedd yn gwneud ymdrech i annog mwy o bobi i ystyried os oes ganddyn nhw’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn ofalwr maeth.

 

Ymgyrch genedlaethol flynyddol yw Pythefnos Gofal Maeth sy’n codi proffil maethu ac yn amlygu’r angen am ragor o ofalwyr maeth. Dyma gyfle gwych i unigolion neu gyplau hyblyg ac optimistig sydd yn wrandawyr da, allai roi arweiniad cadarn a chytbwys i blant a phobl ifanc i gysylltu â Thîm Maethu Gwynedd os ydynt eisiau clywed mwy am ddod yn ofalwr maeth.

Tra bod gofalwyr maeth presennol Gwynedd yn gwneud gwaith arbennig wrth ofalu am blant sydd mewn gofal, mae Cyngor Gwynedd wastad yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â diddordeb dod yn ofalwr maeth newydd.

Dywedodd Aled Gibbard, Rheolwr Gwasanaeth Maethu Cyngor Gwynedd:

“Mae gan ofalwyr maeth rôl hanfodol i gynorthwyo plant i ffynnu drwy roi’r cyfleoedd gorau iddynt mewn bywyd. Gall unrhyw un wneud cais i fod yn ofalwr maeth cyn belled â bod ganddynt yr hyn sy’n angenrheidiol i ofalu am blant sydd wedi eu gwahanu oddi wrth eu teuluoedd.

“Os ydych yn teimlo fod gennych y sgiliau i fod yn ofalwr maeth byddem yn hynod falch o glywed gennych.”

Mae gofalwyr maeth yn derbyn lwfansau o hyd at £200 yr wythnos er mwyn talu am gostau byw'r plentyn. Yn ogystal mae hyd at £300 yr wythnos ar gael i ofalwyr sy’n mynd ymlaen i ddatblygu eu sgiliau a mynychu hyfforddiant priodol.

Mae gofalwyr maeth Gwynedd yn derbyn cefnogaeth gyson a phroffesiynol gan Weithwyr Cymdeithasol cofrestredig a phrofiadol.

Mae’r Pythefnos Maethu wedi ei gydlynu gan y cwmni elusennol - Rhwydwaith Maethu. Mae’n ymgyrch flynyddol i greu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd maethu a’r angen am ofalwyr newydd.

Os ydych chi’n credu fod gennych chi’r hyn sydd ei angen er mwyn bod yn ofalwr maeth, neu os ydych yn dymuno trafod ymhellach, cysylltwch â Thîm Maethu Cyngor Gwynedd ar 01286 682660 neu e-bostiwch: maethu@gwynedd.gov.uk

diwedd

Do you have the skills to become a foster carer?

As we note Foster Care Fortnight (12 – 25 May) Gwynedd Council’s Gwynedd Fostering Team is making an effort to encourage more people to think about whether they have the qualities to become a foster carer.

Foster Care Fortnight is an annual nationwide campaign to raise the profile of fostering and highlights the need for more foster carers. It is the ideal time for individuals or couples who are good listeners, resilient, flexible, optimistic and great role models to contact Gwynedd’s Fostering Team if they want to know more about becoming a foster carer.

Whilst Gwynedd’s current foster carers undertake great work in caring for children who are in care, Gwynedd Council is always keen to hear from anyone who is interested in becoming a new foster carer.

Aled Gibbard, Gwynedd Council’s Service Manager for Foster Care said:

“Foster carers play a vital role in helping children to thrive, by giving them the best possible chances in life. Anyone can apply to be a foster carer as long as they have what it takes to care for children separated from their own families.

“If you think you have the qualities needed to be a great foster carer, we would love to hear from you."

Foster carers are given allowances of up to £200 per week to cover the cost of caring for a child with a further £300 per week available to foster carers who go on to develop their skills and attend of on-going training.

All Gwynedd foster carers receive regular and professional support from experienced and qualified social workers.

Foster Care Fortnight, co-ordinated by national charity the Fostering Network, is an annual campaign to raise awareness of fostering and to recruit more foster carers.

If you think you have what it takes to become a foster carer, or if you wish to learn more about fostering, call the Gwynedd Council Foster Care Team on 01286 682660 or email: fostering@gwynedd.gov.uk

ends
 


COMMENTS

No comments yet...

Be the first and post your views below.

Please Login to comment

To comment you must be logged in. You can either Login or Register